Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Chwefror 2021
Amser:
11.00 -
12.42
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Mark Isherwood AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd Mark Isherwood i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Busnes.
2 Y Rheolau Sefydlog
2.1 Sub Judice
Cytunodd yr Aelodau mewn egwyddor y dylid dileu eithriadau i sub judice o'r Rheol Sefydlog a'u rhoi mewn canllawiau.
2.2 Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol
Cafodd y Rheolwyr Busnes drafodaeth gychwynnol, a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i gael trafodaeth lawn a gwneud penderfyniadau ar y papur yn eu cyfarfod ar 22 Chwefror.
2.3 Aelodaeth Pwyllgorau, Cadeiryddion a Chydbwysedd Gwleidyddol
Cafodd y Rheolwyr Busnes drafodaeth gychwynnol, a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i gael trafodaeth lawn a gwneud penderfyniadau ar y papur yn eu cyfarfod ar 22 Chwefror.
2.4 Gweithdrefnau Adalw
Cafodd y Rheolwyr Busnes drafodaeth gychwynnol, a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i gael trafodaeth lawn a gwneud penderfyniadau ar y papur yn eu cyfarfod ar 22 Chwefror.
2.5 Adolygu Rheolau Sefydlog dros dro
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylid ymestyn y Rheolau Sefydlog dros dro i'r Senedd nesaf er mwyn caniatáu iddynt barhau i gael eu gweithredu a’u hadolygu’n llawn gan y Pwyllgor Busnes newydd.
2.6 Cynnal pleidleisiau cyfrinachol mewn Senedd rithwir neu hybrid
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylai pleidleisio electronig o bell fod ar gael i'r Aelodau ar ddechrau'r Senedd newydd, gan gynnwys ar gyfer ethol y Llywydd a'r dirprwy, a gofynwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno mwy o fanylion am opsiynau posibl.